7 Mehefin 2023
Ynghylch: Llythyr yn dilyn sesiwn dystiolaeth weinidogol
Annwyl Mark,
Diolch am ddod i’r Pwyllgor ddydd Mercher, 10 Mai 2023 ar gyfer y sesiwn dystiolaeth ar ein hymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, ac am eich llythyr ar 24 May 2023 yn rhoi rhagor o wybodaeth. Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd i fynd ar drywydd nifer o faterion, ac rwyf wedi amlinellu’r rhain isod.
Dyraniad y gyllideb
Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael gwybodaeth am ddyraniad y gyllideb ar gyfer gwaith sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithredu Datganiad ar y Cyd a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Cymru ac Iwerddon (y Datganiad ar y Cyd).
Rhannu gwybodaeth
Yn ystod y cyfarfod, buom yn trafod cyfnewid gwybodaeth a syniadau drwy gyfleoedd secondiad. Esboniodd Alun Davies AS fod aelodau'r Pwyllgor, yn ystod ymweliad diweddar y Pwyllgor â Dulyn, wedi cyfarfod â secondai o Lywodraeth Cymru yn Adran Materion Tramor Iwerddon. Egluroch fod y sawl a secondiwyd i fod i ddarparu adroddiad llawn ar eu profiad i gasglu’r gwersi a ddysgwyd a chefnogi gwerthusiad o effeithiolrwydd y fenter. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael copi o'r adroddiad hwnnw pan fydd ar gael.
PEACE PLUS
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi tynnu ein sylw at gytundeb ariannu rhyngwladol ar gyfer parhad y rhaglen PEACE PLUS. Bydd y rhaglen yn parhau i gyd-ariannu gweithgareddau trawsffiniol sy'n hyrwyddo heddwch a chymod ac yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd a thiriogaethol trawsffiniol rhanbarth y ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon ar ôl Brexit. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael barn Llywodraeth Cymru am gyfraniad y rhaglen at y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.
Fframwaith cysylltiadau Cymru ac Iwerddon
Mae’r Pwyllgor yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru nifer o fentrau a strategaethau ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys ei Strategaeth Ryngwladol, y Datganiad ar y Cyd, a’i Fframwaith Môr Iwerddon newydd. A allwch chi egluro sut mae'r mentrau hyn yn gweithio gyda'i gilydd a sut y mae Gweinidogion yn eu cydgysylltu yn Llywodraeth Cymru. Byddai’n ddefnyddiol hefyd i’r Pwyllgor wybod a oes unrhyw gynlluniau i ddod â’ch holl fentrau Cymru ac Iwerddon ynghyd mewn un lle yn y dyfodol.
Cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit
Roedd eich tystiolaeth ysgrifenedig yn dweud bod swyddogion yn parhau i gydweithio i sicrhau nad yw’r llwyddiannau a gafwyd drwy Raglen Iwerddon a Chymru yn cael eu colli. A allwch chi esbonio'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Horizon Europe
Yn ystod y cyfarfod buom yn trafod mynediad at Horizon Europe yn dilyn cyhoeddi Fframwaith Windsor. Dywedoch wrthym na fydd cysylltiad â Horizon Europe yn digwydd yn y dyfodol agos. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i wybod pryd y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl y bydd mynediad at Horizon Europe yn digwydd.
Datganiad ar y cyd a chynllun gweithredu ar y cyd
Yn ystod ein hymchwiliad, canfuom fod ymwybyddiaeth rhanddeiliaid o’r Datganiad ar y Cyd yn amrywio o ragorol i wael. Rhowch wybod pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau bod y rhanddeiliaid y cyfeirir atynt yn y Datganiad ar y Cyd yn ymwybodol o'ch ymrwymiadau i gefnogi eu gwaith trawsffiniol.
Cysylltiadau dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon
Mae’r aelodau’n awyddus i wybod mwy am eich rôl yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a deall a yw hyn wedi newid ers Brexit a sut.
Cydweithrediad y tu hwnt i 2025
Clywsom yn ystod ein hymweliad diweddar â Dulyn am gynlluniau i adnewyddu’r Datganiad ar y Cyd. Yn eich tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad hwn, nodoch feysydd allweddol i’w cynnwys mewn datganiadau ar y cyd ag Iwerddon yn y dyfodol, fel cysylltiadau addysgol, cyllid, cysylltiadau economaidd, cydweithredu gwleidyddol, a rhannu polisi. Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith hwn a hoffai ddeall sut y bydd rhanddeiliaid Cymru a’r aelodau yn rhan o ddatblygu unrhyw gynllun Cymru ac Iwerddon ar ei newydd wedd.
Yn eich adroddiad swyddfeydd tramor, rydych yn nodi eich bod ar fin llofnodi datganiad ar y cyd â'r Almaen. A allech gadarnhau bod hyn ar wahân i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Baden-Württemberg a drafodwyd gennym yn ystod y sesiwn craffu ar gysylltiadau rhyngwladol, ac yn ychwanegol ato. A allech hefyd egluro pam y dewiswyd yr Almaen, ac a fydd y fframwaith ar gyfer cysylltiadau Cymru ac Iwerddon y buom yn ei drafod yn ystod y cyfarfod yn cael ei ddefnyddio fel glasbrint ar gyfer y datganiad ar y cyd newydd hwn.
Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Yn gywir,
Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or
English.